gan Elin Rhys

Rwy’n cofio’r tro cyntaf  i mi glywed ei llais a meddwl y buaswn, o’r eiliad honno mlaen, yn credu bob gair fyddai’n dod o’i gennau! Roeddwn yn gweithio i’r Bwrdd Dwr ar y pryd, a digwyddais ei chlywed ar Radio Cymru yn trafod peryglon rhoi fflworid mewn dŵr yfed i arbed pydru. Nid yn aml mae gwyddonydd yn gallu crynhoi ffeithiau a chrisialu syniadau mor effeithiol.

Dilynais ei dadleuon lawer tro wedyn – ar faeth, lle mynnodd bod menyn yn amgenach na marjarin;  ar ynni niwcliar,  ar yr amgylchedd, a thechnoleg teithio gofod. Ei llyfr” I’r Lleuad a Thu Hwnt “oedd y cyntaf i mi ei ddarllen yn Gymraeg, a hi oedd y gwyddonydd cyntaf i mi ei chyfweld ar gyfres gyntaf Telesgop ar y Gofod ddeunaw mlynedd yn ôl.

Yn dlws, gyda llais melfedaidd, y peth mwyaf ysbrydoledig amdani oedd y ffordd ymladdodd i ddyfalbarhau fel gwyddonydd mewn cyfnod pan oedd menywod yn derbyn dim ond sarhad.  Dychmygwch fod arholwr allanol wedi anwybyddu ei  gwaith ymchwil, a hithau’r unig ferch yn y dosbarth ffiseg,  gan holi “ and what are you doing here?”!

Enillodd ddoethuriaeth maes o law am ei gwaith ar Belydr X  ac fe’i hapwyntiwyd yn Bennaeth Ffiseg mewn ysgol yn Lloegr ar sail ei chymwysterau gwych ar bapur- tan iddyn nhw sylweddoli mai menyw oedd hi. ’Doedd ei chyflogwyr ddim wedi breuddwydio mai enw menyw oedd Eirwen!

Mae ei chyfraniad at fathu termau gwyddonol  yn y Gymraeg yn aruthrol. Bu’n ysbrydoliaeth i mi i ddyfalbarhau fel cyflwynydd yn maes gwyddoniaeth, ac fel menyw ym myd busnes. Dysgodd fi i fagu arddeliad, holi’n dreiddgar, a gwybod fy ffeithiau cyn agor fy ngheg!