Rŵan, dwi’n ymwybodol bod Gwilym Owen yn reit cin ar ‘holi, stilio, procio a phryfocio’  ond pam ddarllenais i’r isod, doni’m yn siŵr iawn ddylwn i chwerthin ‘ta crio.  Peryg na fi sy’n bod yn emosiynol ryfeddol eto.  Go dratia’n ngwneuthuriad…

“Yn aml iawn mae merch yn gallu bod yn well na dyn achos be dw i wedi’i ganfod efo merched ydi bod nhw llawer iawn mwy gofalus, bod llawer iawn mwy o ddyfalbarhad.  Ond am resymau gwneuthuriad y ferch, ar amseroedd arbennig (maen nhw) yn gallu bod yn emosiynol ryfeddol ac ar yr amseroedd hynny fyswn i yn dechrau bod yn bryderus ynglŷn â pha mor balanced ydyn nhw, os ga’i ddefnyddio’r gair hwnnw.  Dyna’r unig beth fyddwn i yn ei ddweud.”

Gwilym Owen, Golwg, Gorffennaf 28ain 2011

Advertisements

Gyfeillion, cofiwch am ddigwyddiad Hacio’r Iaith a gynhelir yn y ‘Steddfod ddydd Llun ar stondin Prifysgol Aberystwyth rhwng 1:30 a 5:00.  Cyfle gwych i drafod technoleg a’r Gymraeg dros banad.  Fe fydd yna hefyd Wi-Fi a bara brith. Pwy sydd angen mwy?

Yn bendol, dwi’n edrych ymlaen at y gweithdy ar flogio am 3:30.  Wedi’r distawrwydd diweddar, beryg bo ni angen cyngor.

“I am regularly asked by students whether the gender-balanced nature of the membership of the National Assembly makes any real difference to policy outcomes. I think it does, and the example I always cite is the creation of the One Wales agreement in June 2007. Put simply that agreement would not have happened, had the process not been driven by women politicians”.

“In my experience, when the going gets really tough, male politicians have a tendency to retreat to the testosterone-fuelled mountain tops, and shout at each other across the great divide. In contrast, women search relentlessly for the common ground, for the sometimes small piece of shared territory around which a wider jigsaw of agreement can be put together”.

Mark Drakeford, Cynghorydd Arbennig Rhodri Morgan 2000 – 2010, mewn erthygl arbennig i Click on Wales.

Gyda’r Guardian yn trafod y gostyngiad yn y nifer o fenywod sy’n sefyll yn etholiadau’r Cynulliad eleni a Sefydliad Materion Cymreig yn rhagweld y bydd y nifer o Aelodau Cynulliad sy’n fenywod yn gostwng oddeutu 30% wedi’r etholiad, pa ddyfodol sydd i’r wleidyddiaeth newydd mewn gwirionedd?

Pob blwyddyn mae 1.3 miliwn o fabanod newydd anedig yn marw yn rhai o wledydd tlodaf y byd, a hynny am fod y fam yn rhoi genedigaeth ar ei phen ei hun neu heb fydwraig.  Gall bydwragedd achub bywydau, ond does dim digon ohonynt mewn nifer o wledydd sy’n datblygu.

Cefnogwch ymgyrch Achub y Plant dros 3.5 miliwn o weithwyr iechyd heddiw.

Fe fydd y bardd (a chyfrannydd i’n blog!) Menna Elfyn yn cyhoeddi detholiad arbennig o’i gwaith yr wythnos nesaf.

Yn y gyfrol Merch Perygl, ceir dros 150 o gerddi yn rhychwantu gyrfa gyfan y bardd hyd yma, o gyfrolau cynnar y saithdegau Mwyara a ‘Stafelloedd Aros, drwy’r wythdegau a’r nawdegau i gyfrolau diweddar Er Dy Fod a Perffaith Nam.

Bydd Menna Elfyn yn lansio’r  gyfrol yn:

  • Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, nos Iau, 7 Ebrill am 7 o’r gloch.  Tocynnau am ddim ar gael oddi wrth y Drwm;
  • Galeri, Caernarfon nos Iau, 14 Ebrill am 7 o’r gloch;
  • Gŵyl Bedwen Lyfrau yng nghanolfan Gelfyddydol The Gate, Y Rhâth, Caerdydd ddydd Sadwrn, 7 Mai.

Yn wyneb y dadleuon arferol nad oes angen Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar Gymru na’r byd, mae’n werth gwylio’r ffilm yma wedi ei chyfarwyddo gan Sam Taylor Wood ar ran yr ymgyrch We are Equals.

Gair byr i ddiolch i bawb a gyfrannodd at ddathliadau arbennig Diwrnod Rhyngwladol y Menywod be di gender yn Gymraeg ddoe. Fe fu’r ymateb yn anhygoel.

Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y blog mewn unrhyw ffordd, boed drwy ysgrifennu cofnod, anfon fideo neu rannu ddelwedd, cysylltwch â ni ar bedigenderyngymraeg@gmail.com

Maint Mon fyddai’r croeso!

gan Elin Rhys

Rwy’n cofio’r tro cyntaf  i mi glywed ei llais a meddwl y buaswn, o’r eiliad honno mlaen, yn credu bob gair fyddai’n dod o’i gennau! Roeddwn yn gweithio i’r Bwrdd Dwr ar y pryd, a digwyddais ei chlywed ar Radio Cymru yn trafod peryglon rhoi fflworid mewn dŵr yfed i arbed pydru. Nid yn aml mae gwyddonydd yn gallu crynhoi ffeithiau a chrisialu syniadau mor effeithiol.

Dilynais ei dadleuon lawer tro wedyn – ar faeth, lle mynnodd bod menyn yn amgenach na marjarin;  ar ynni niwcliar,  ar yr amgylchedd, a thechnoleg teithio gofod. Ei llyfr” I’r Lleuad a Thu Hwnt “oedd y cyntaf i mi ei ddarllen yn Gymraeg, a hi oedd y gwyddonydd cyntaf i mi ei chyfweld ar gyfres gyntaf Telesgop ar y Gofod ddeunaw mlynedd yn ôl.

Yn dlws, gyda llais melfedaidd, y peth mwyaf ysbrydoledig amdani oedd y ffordd ymladdodd i ddyfalbarhau fel gwyddonydd mewn cyfnod pan oedd menywod yn derbyn dim ond sarhad.  Dychmygwch fod arholwr allanol wedi anwybyddu ei  gwaith ymchwil, a hithau’r unig ferch yn y dosbarth ffiseg,  gan holi “ and what are you doing here?”!

Enillodd ddoethuriaeth maes o law am ei gwaith ar Belydr X  ac fe’i hapwyntiwyd yn Bennaeth Ffiseg mewn ysgol yn Lloegr ar sail ei chymwysterau gwych ar bapur- tan iddyn nhw sylweddoli mai menyw oedd hi. ’Doedd ei chyflogwyr ddim wedi breuddwydio mai enw menyw oedd Eirwen!

Mae ei chyfraniad at fathu termau gwyddonol  yn y Gymraeg yn aruthrol. Bu’n ysbrydoliaeth i mi i ddyfalbarhau fel cyflwynydd yn maes gwyddoniaeth, ac fel menyw ym myd busnes. Dysgodd fi i fagu arddeliad, holi’n dreiddgar, a gwybod fy ffeithiau cyn agor fy ngheg!

gan Mari Sion

Yn y llyfrgell y dois i ar draws Cynthia Enloe am y tro cyntaf.  A finnau yn y coleg ac wedi fy amgylchynu gan ddynion a’u damcaniaethau a’r wleidyddiaeth ryngwladol, roedd darllen ei gwaith y tro cyntaf hwnnw yn agoriad llygad.

Yn Bananas, Beaches and Bases mae Enloe’n gofyn y cwestiwn syml ble mae’r menywod? Mae’n dadlau’n glir nad yw’r ffin rhwng y personol a’r gwleidyddol yn bodoli gan ein hannog i edrych o’r newydd ar benderfyniadau a sefyllfaoedd gwleidyddol.  Roedd ei dadl eofn yn chwa o awyr iach wedi tymor hir o astudio damcaniaethau oedd yn creu dim byd ond mwy o gwestiynau.

Am y tro cyntaf, dyma ddadleuon oedd yn gwneud synnwyr llwyr, oedd yn cynnig atebion yn ogystal â herio myd olwg.  Roedd y darnau’n cwympo i’w lle… ro’n i’n ffeminist.  Doni jyst ddim wedi dallt hynny tan y p’nawn hwnnw yn y llyfrgell.

gan Annes Sion

Mae’n debyg  y bydd pawb  yn edrych yn ddigon od  ar  fy newis i ond i mi roedd Anne Boleyn yn un o’r ffeiministiaid cyntaf i mi sylwi arni. Efallai y bydd llawer yn anghytuno, ond mewn cyfnod pan nad oedd gan ferched lawer o hawliau, roedd ganddi hi ei llais arbennig ei hun ac roedd hi’n anfodlon i ddim byd ei hatal rhag cyflawni ei gobeithion.

Wrth i Harri VIII geisio ei chanlyn, safodd Anne yn gadarn a gwrthod bod yn feistres iddo.  Canlyniad hyn oedd i Harri dorri ei gysylltiad efo’r  Eglwys Gatholig.  Gan bod Anne  eisiau bod yn frenhines,  mae rhai yn dadlau y bu iddi annog y toriad oddi wrth yr eglwys er mwyn ei hun. Efallai mai bod yn hunanol oedd hi, ond i mi mewn  oes pan ystyriwyd merched yn wrthrychau ac nid yn bobl â chanddynt  obeithion a uchelgeis roedd Anne yn wahanol. Mewn cyfnod pan nad oedd gan ferched lais, fe ddylanwadodd ar Harri i wneud polisiau a phenderfyniadau. Er ei mawrolaeth erchyll, a’r rhesymau dros ei lladd, ac er bod haneswyr yn dal i ddadlau am pa mor hir y gwrthododd fod yn feistres i Harri,  mae’r ffaith  iddi wrthod o gwbl ac i’w llais gael ei glywed yn ei  gwneud yn arwres i mi.