Archives for posts with tag: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Gair byr i ddiolch i bawb a gyfrannodd at ddathliadau arbennig Diwrnod Rhyngwladol y Menywod be di gender yn Gymraeg ddoe. Fe fu’r ymateb yn anhygoel.

Cofiwch os hoffech chi gyfrannu at y blog mewn unrhyw ffordd, boed drwy ysgrifennu cofnod, anfon fideo neu rannu ddelwedd, cysylltwch â ni ar bedigenderyngymraeg@gmail.com

Maint Mon fyddai’r croeso!

gan Elin Rhys

Rwy’n cofio’r tro cyntaf  i mi glywed ei llais a meddwl y buaswn, o’r eiliad honno mlaen, yn credu bob gair fyddai’n dod o’i gennau! Roeddwn yn gweithio i’r Bwrdd Dwr ar y pryd, a digwyddais ei chlywed ar Radio Cymru yn trafod peryglon rhoi fflworid mewn dŵr yfed i arbed pydru. Nid yn aml mae gwyddonydd yn gallu crynhoi ffeithiau a chrisialu syniadau mor effeithiol.

Dilynais ei dadleuon lawer tro wedyn – ar faeth, lle mynnodd bod menyn yn amgenach na marjarin;  ar ynni niwcliar,  ar yr amgylchedd, a thechnoleg teithio gofod. Ei llyfr” I’r Lleuad a Thu Hwnt “oedd y cyntaf i mi ei ddarllen yn Gymraeg, a hi oedd y gwyddonydd cyntaf i mi ei chyfweld ar gyfres gyntaf Telesgop ar y Gofod ddeunaw mlynedd yn ôl.

Yn dlws, gyda llais melfedaidd, y peth mwyaf ysbrydoledig amdani oedd y ffordd ymladdodd i ddyfalbarhau fel gwyddonydd mewn cyfnod pan oedd menywod yn derbyn dim ond sarhad.  Dychmygwch fod arholwr allanol wedi anwybyddu ei  gwaith ymchwil, a hithau’r unig ferch yn y dosbarth ffiseg,  gan holi “ and what are you doing here?”!

Enillodd ddoethuriaeth maes o law am ei gwaith ar Belydr X  ac fe’i hapwyntiwyd yn Bennaeth Ffiseg mewn ysgol yn Lloegr ar sail ei chymwysterau gwych ar bapur- tan iddyn nhw sylweddoli mai menyw oedd hi. ’Doedd ei chyflogwyr ddim wedi breuddwydio mai enw menyw oedd Eirwen!

Mae ei chyfraniad at fathu termau gwyddonol  yn y Gymraeg yn aruthrol. Bu’n ysbrydoliaeth i mi i ddyfalbarhau fel cyflwynydd yn maes gwyddoniaeth, ac fel menyw ym myd busnes. Dysgodd fi i fagu arddeliad, holi’n dreiddgar, a gwybod fy ffeithiau cyn agor fy ngheg!

gan Mari Sion

Yn y llyfrgell y dois i ar draws Cynthia Enloe am y tro cyntaf.  A finnau yn y coleg ac wedi fy amgylchynu gan ddynion a’u damcaniaethau a’r wleidyddiaeth ryngwladol, roedd darllen ei gwaith y tro cyntaf hwnnw yn agoriad llygad.

Yn Bananas, Beaches and Bases mae Enloe’n gofyn y cwestiwn syml ble mae’r menywod? Mae’n dadlau’n glir nad yw’r ffin rhwng y personol a’r gwleidyddol yn bodoli gan ein hannog i edrych o’r newydd ar benderfyniadau a sefyllfaoedd gwleidyddol.  Roedd ei dadl eofn yn chwa o awyr iach wedi tymor hir o astudio damcaniaethau oedd yn creu dim byd ond mwy o gwestiynau.

Am y tro cyntaf, dyma ddadleuon oedd yn gwneud synnwyr llwyr, oedd yn cynnig atebion yn ogystal â herio myd olwg.  Roedd y darnau’n cwympo i’w lle… ro’n i’n ffeminist.  Doni jyst ddim wedi dallt hynny tan y p’nawn hwnnw yn y llyfrgell.

gan Annes Sion

Mae’n debyg  y bydd pawb  yn edrych yn ddigon od  ar  fy newis i ond i mi roedd Anne Boleyn yn un o’r ffeiministiaid cyntaf i mi sylwi arni. Efallai y bydd llawer yn anghytuno, ond mewn cyfnod pan nad oedd gan ferched lawer o hawliau, roedd ganddi hi ei llais arbennig ei hun ac roedd hi’n anfodlon i ddim byd ei hatal rhag cyflawni ei gobeithion.

Wrth i Harri VIII geisio ei chanlyn, safodd Anne yn gadarn a gwrthod bod yn feistres iddo.  Canlyniad hyn oedd i Harri dorri ei gysylltiad efo’r  Eglwys Gatholig.  Gan bod Anne  eisiau bod yn frenhines,  mae rhai yn dadlau y bu iddi annog y toriad oddi wrth yr eglwys er mwyn ei hun. Efallai mai bod yn hunanol oedd hi, ond i mi mewn  oes pan ystyriwyd merched yn wrthrychau ac nid yn bobl â chanddynt  obeithion a uchelgeis roedd Anne yn wahanol. Mewn cyfnod pan nad oedd gan ferched lais, fe ddylanwadodd ar Harri i wneud polisiau a phenderfyniadau. Er ei mawrolaeth erchyll, a’r rhesymau dros ei lladd, ac er bod haneswyr yn dal i ddadlau am pa mor hir y gwrthododd fod yn feistres i Harri,  mae’r ffaith  iddi wrthod o gwbl ac i’w llais gael ei glywed yn ei  gwneud yn arwres i mi.

gan Mari

Diflas ‘te: dewis Mam fel dynes sydd wedi dylanwadu arna’i. Bron cynddrwg â dewis Ryan Giggs fel ‘arwr’ mewn tasg sgwennu yn yr ysgol gynradd. Mae’n bosibl fod hyn yn dweud rhywbeth am ddiffyg dylanwadau benywaidd cadarnhaol ynddo’i hun – ond pwy arall fedrwn i’w ddewis?

Yr hyn sy’n nodweddu fy mam ydi’r graen diymdrech ar bopeth mae’n ei wneud; mae hi mor atebol. Mae hi wastad mewn rheolaeth, yn dawel ond pendant ei barn. Dwi, fel hi, yn aflonydd a mymryn yn fyrbwyll, ond mae ganddi hi ryw amynedd diddiwedd yn ei swydd. Mae hi’n rhoi cymorth i blant, y rhelyw o gefndiroedd go anodd, i sgwennu a darllen a chyfrif. Mae ei brwdfrydedd mor amlwg wrth iddi ddisgrifio, yn fanwl a maith, rhyw blentyn yn cofio ar ba ochr i roi’r gynffon ar ‘b’ a ‘d’ ar ôl blynyddoedd o chwithdod.

Rôl ddigon traddodiadol sydd gan Mam adref, ond ‘dw i ddim yn meddwl iddi erioed drio fy ngwthio i mewn i unrhyw drefniant domestig na barnu fy newisiadau wrth i mi dyfu’n hŷn. Nid bod hynny’n eithriadol mae’n siŵr, ond dyna’r dylanwad sydd arnaf i, a ‘dw i’n falch o’i gael.

gan Janet Roberts

Yn dair ar ddeg oed, yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, roeddwn i’n chwilio am achos. Dewis fy rheini oedd f’anfon i yno  er mwyn i mi gael addysg fwy Seisnig a gwell yn eu tyb hwy.

Un wythnos, yn ei golofn yn Y Dydd, adroddodd fy ngweinidog, O. M. Lloyd, hanes  un o gyn disgyblion disgleiriaf yr ysgol sef Eluned Morgan o’r Wladfa.  Byr fu ei arhosiad ond tra yno, arweiniodd brotest yn erbyn yr arfer o wahardd siarad Cymraeg wrth y bwrdd bwyd.

Mewn fflach roedd yr achos gen i ac arwres oes hefyd a hynny ar sail ei sêl a’i dycnwch hi dros y Gymraeg y diwrnod allweddol hwnnw.

Ymhlith fy nhrysorau mwyaf mae copi gan gyfaill o Eluned Morgan a gyflwynodd yr awdur R Bryn Williams i’r ysgol  ac argraffiad cyntaf o  Dringo’r Andes yn rhodd gan fy ngŵr.

Yr Eluned ifanc honno fyddai’r cyntaf i gyfrannu at y blog hwn heddiw ac mi fyddai hi hefyd yn falch bod gan y sawl a’i sefydlodd gyswllt â’r hen ysgol hefyd.  Dal yma a dal i sefyll Eluned.

gan Sioned Puw Rowlands

Pin-up y Torïaid ydi Katherine Birbalsingh; yn ysgogi llond cynhadledd i sefyll ar eu traed wrth iddi ddatgelu pethau dramatig am gyflwr ysgolion heddiw. O ganlyniad, collodd ei swydd fel dirprwy brifathrawes ysgol uwchradd yn Llundain. Er bod y tueddiadau Torïaidd yn newydd sbon – sosialydd oedd hi ddeg mlynedd – tydy nhw ddim yn fy synnu.

Fallai bod hynny’n awgrymu mai chwilota am achos y mae yn hytrach na choleddu egwyddorion go iawn; ac felly mai ei hamau yn hytrach na’i hedmygu y dylwn. Dwi ddim yn siwr os ydw i’n cytuno cant y cant efo’i safbwyntiau cyhoeddus chwaith. Ond mae ei dyngarwch yn gryf ac rwy’n ei hedmygu am ei gweledigaeth, ei dyfalbarhad, a’i phenderfyniad; ei gallu i greu cwys newydd er mwyn sicrhau cyfleoedd i blant y mae hi’n credu yn eu dyfodol.

gan Lleucu Sion

Mop o wallt cyrls, traed seis tri a chorff sy ddim lot mwy na 5’1 (ma’ hi’n mynnu ei bod hi lot talach!) er nad ydi hi’n swnio’n gawr…mae hi’n dipyn o ddynes.  Gyda’i agwedd liwgar, ei chwerthiniad mud sy’n peri iddi droi’n goch ag i’r dagrau bwlio lawr ei hwyneb, mae hi wedi cyffwrdd bywyd llawer un, boed yn deulu, ffrindiau, ei chydweithwyr, a’i chyn-ddisgyblion.

Heb os ei chariad pur, ei haelioni di derfyn a’i hangerdd sy’n peri i ni gyd ei charu! Mae creadigrwydd yn air arall sy’n dod i’r meddwl – nid lot o bobl sy’n gallu deud eu bod nhw wedi trio byrgyrs oren a chawl sy’n cynnwys gweddillion y cinio dydd Sul a ‘left overs’ y sbageti bolones! Er fy mod yn ei chysidro i fod yn ffrind arbennig, y peth dwi’n fwyaf balch ohono, yw cael galw’r ddynes arbennig yma yn Mama.

gan Nia Edwards-Behi

Rwy’n sicr bod llawer iawn o bobl heddiw yn ysgrifennu am fenywod pwysig hanes a diwylliant, neu am aelodau o deulu agos a theulu pell. Mae ddigon o resymau y dylwn i wneud yr un fath, ac mi fedrwn i, ond rydw i am ddewis merch eithaf gwahanol.

Pan o’n i ryw 14 mlwydd oed dechreuais i wylio The X-Files. Ie, sioe deledu hollol ffuglenol ond, sioe sy’n cynnwys un o’r cymeriadau benywaidd orau ar sgrin neu ar dudalen. Digon hawdd yw gwneud hwyl am ben gîcs and nyrds sy’n gwylio’r fath raglenni ac yn parhau i wneud ar ôl iddyn nhw dyfu fyny (byth!), ond, does ddim gwadu dylanwad Dr Dana Scully arnaf fi. Yn bennaf, daw hyn drwy ei llwyrfryd at ei gwaith a’i chredoau, a’r urddas y dangosai hi tuag at bob agwedd o’i bywyd.

Tra bod ei chymeriad hi’n dangos y fath gryfder mewn sefyllfaoedd anghredadwy, ffuglennol, mae’i dylanwad hi yn llawer mwy real.

gan Nici Beech

Mae na sawl siop ardderchog ar Stryd y Plas, Caernarfon ac mae nifer ohonyn nhw’n cael eu rhedeg gan ferched, ond yn fy marn i @EirianPalasPrin (ia, dilynwch hi ar twitter) ydi’r ferch fwya dylanwadol yn y stryd. Mae hi’n esiampl o bopeth sy’n dda am siopau annibynol, a hi yn aml fydd y cyntaf y mae’r cyfryngau’n cyslltu a nhw i gasglu barn o blaid neu yn erbyn datblygiadau yn y dref.

Wnes i gyfarfod Eirian wrth fynd i lansiadau llyfrau yn yr hen siop. Mi symudodd Palas Print ar draws y ffordd (o lle mae Lotti & Wren rŵan) yn 2005 ac erbyn hynny roeddem ni wedi dod yn gyd-drefnwyr nosweithiau adloniant 4/6. Mi gymrodd cwpl o flynyddoedd ar ôl hynny i ni ddweud wrth ein gilydd ein bod ni’n ffrindiau (a chyfaddef ein bod ni’n bobl swil yn y bôn) ond dwi’n ei chyfri’n un o fy ffrindiau gorau erbyn hyn. Mae ‘na ambell i debygrwydd arall rhyngthon ni; da ni’n dwy wedi dewis dynion chydig yn hŷn na ni fel cymar (sydd efo enwau yn dechrau efo’r llythyren ‘S’)  a da ni’n eitha hoff o win coch a rhoi’r byd yn ei le.

Cefnogol ydi un o’r geiriau eraill faswn i’n ei ddefnyddio i ddisgrifio Eirian ac mae pethau’n tueddu i ddigwydd pan mae ganddyn nhw ei chefnogaeth hi.

Arloesol a Ffraeth hefyd – mae’r pan lansiodd y siop ei gwasanaeth ar-lein “Palas Print Heb Ffiniau / Without Borders” pwy fasa’n meddwl y byddai’r gadwyn o siopau mawrion yn dymchwel o fewn cwpl o flynyddoedd…?!

Mae Llwyddiannus yn air da arall, roedd siop Bangor – Palas Print Pendref – yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf wythnos diwethaf – hip hip hwrê!

A Shhhh…ond siaradus ella ydi’r gair olaf wna’i ddefnyddio i ddisgrifio Eirian. Mae ymweld â’r brenhines yn ei phalas o brint yn gallu cymryd amser hiiir….ond dyna sy’n hyfryd amdani, mae ganddi wastad amser i siarad efo’i chwsmeriaid a’i ffrindiau. Hir oes i Eirian!