Rŵan, dwi’n ymwybodol bod Gwilym Owen yn reit cin ar ‘holi, stilio, procio a phryfocio’ ond pam ddarllenais i’r isod, doni’m yn siŵr iawn ddylwn i chwerthin ‘ta crio. Peryg na fi sy’n bod yn emosiynol ryfeddol eto. Go dratia’n ngwneuthuriad…
“Yn aml iawn mae merch yn gallu bod yn well na dyn achos be dw i wedi’i ganfod efo merched ydi bod nhw llawer iawn mwy gofalus, bod llawer iawn mwy o ddyfalbarhad. Ond am resymau gwneuthuriad y ferch, ar amseroedd arbennig (maen nhw) yn gallu bod yn emosiynol ryfeddol ac ar yr amseroedd hynny fyswn i yn dechrau bod yn bryderus ynglŷn â pha mor balanced ydyn nhw, os ga’i ddefnyddio’r gair hwnnw. Dyna’r unig beth fyddwn i yn ei ddweud.”
Gwilym Owen, Golwg, Gorffennaf 28ain 2011