Gyfeillion, cofiwch am ddigwyddiad Hacio’r Iaith a gynhelir yn y ‘Steddfod ddydd Llun ar stondin Prifysgol Aberystwyth rhwng 1:30 a 5:00. Cyfle gwych i drafod technoleg a’r Gymraeg dros banad. Fe fydd yna hefyd Wi-Fi a bara brith. Pwy sydd angen mwy?
Yn bendol, dwi’n edrych ymlaen at y gweithdy ar flogio am 3:30. Wedi’r distawrwydd diweddar, beryg bo ni angen cyngor.