Fe fydd y bardd (a chyfrannydd i’n blog!) Menna Elfyn yn cyhoeddi detholiad arbennig o’i gwaith yr wythnos nesaf.
Yn y gyfrol Merch Perygl, ceir dros 150 o gerddi yn rhychwantu gyrfa gyfan y bardd hyd yma, o gyfrolau cynnar y saithdegau Mwyara a ‘Stafelloedd Aros, drwy’r wythdegau a’r nawdegau i gyfrolau diweddar Er Dy Fod a Perffaith Nam.
Bydd Menna Elfyn yn lansio’r gyfrol yn:
- Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, nos Iau, 7 Ebrill am 7 o’r gloch. Tocynnau am ddim ar gael oddi wrth y Drwm;
- Galeri, Caernarfon nos Iau, 14 Ebrill am 7 o’r gloch;
- Gŵyl Bedwen Lyfrau yng nghanolfan Gelfyddydol The Gate, Y Rhâth, Caerdydd ddydd Sadwrn, 7 Mai.
